welsh

CROESO I OGLEDD CYMRU

Bridge_TuHwntIrBont

Croeso i ogledd Cymru ar gyfer pedwaredd Bencampwriaeth Rhedeg y Byd Llwybr IAU. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu athletwyr o bob cwr o’r byd i sir Conwy, lle cynhaliwyd Pencampwriaeth  Mynydd a Phellter Hir y Gymanwlad yn 2011. Cynhelir seremonïau agor a chloi Llwybr IAU y Byd yn nhref glan môr Fictoraidd Llandudno, a chynhelir y ras yn nhref hanesyddol Llanrwst, yn Nyffryn Conwy.

Gan ddechrau ar bont garreg y 17eg ganrif, ‘Y Bont Fawr’ dros Afon Conwy, bydd yr athletwyr rhyngwladol yn parhau heibio hen lys y 15fed ganrif Tu Hwnt i’r Bont a Chastell Gwydir sy’n adeilad rhestredig Gradd I, cyn dringo i fyny i Goedwig Gwydyr lle bydd y rasio’n digwydd ar gylch heriol golygfaol y mae angen ei redeg 5 gwaith!